ceisio gwneud
SYNNWYR
o hyn
MATHAU O BROBLEMAU IECHYD MEDDWL
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, dim ots pa mor hen ydyn nhw. Mae iechyd meddwl ychydig bach yn debyg i iechyd corfforol. Oherwydd does neb yn dewis cael problemau iechyd meddwl. Ond gyda’r cymorth iawn, fe alli di wella.
BETH YW IECHYD MEDDWL?
Mae iechyd meddwl yn golygu:
- sut rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun
- pa mor hapus wyt ti
- i ba raddau rwyt ti’n credu y galli di oresgyn heriau yn dy fywyd
- a wyt ti’n teimlo dy fod yn gallu dod ymlaen â phobl eraill.
Weithiau, efallai y byddi di’n teimlo dan straen (Saesneg) neu’n bryderus (Saesneg). Ar adegau eraill, efallai y byddi’n teimlo’n gadarnhaol ac yn llawn hyder. Mae teimlo i fyny ac i lawr fel hyn yn normal.
Ond efallai y bydd yn dechrau bod yn broblem os bydd meddyliau negyddol neu ofidus yn digwydd drwy’r amser. Neu os yw’r meddyliau hyn yn dechrau effeithio ar dy fywyd bob dydd. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, efallai y bydd meddyg (Saesneg) yn diagnosio hyn fel salwch meddwl.
Pethau y galli eu gwneud nawr i helpu:
- Gwneud rhywfaint o ymarfer corff
Dod o hyd i rywbeth rwyt ti’n ei hoffi, boed hynny’n rhedeg, yn ddawnsio neu fynd am dro - Siarad
Mae gwneud amser i siarad â ffrindiau neu deulu yn ffordd wych o wneud i bethau deimlo’n well - Helpu rhywun arall
Gallet roi anrheg neu ganmoliaeth i ffrind - yn aml, gallai gwneud hyn dy roi di mewn hwyliau gwell - Bwyta bwyd da
Mae cysylltiad rhwng bwyd ac iechyd meddwl, a gall bwyta'n dda (Saesneg) dy helpu i deimlo'n dda
- Rhoi cynnig ar rywbeth newydd
Efallai y byddi di’n teimlo na alli di wneud hynny – ond wedyn fe weli di dy fod yn gallu gwneud. A gall hynny wneud i ti deimlo’n dda amdanat dy hun.
GWAHANOL BROBLEMAU IECHYD MEDDWL
Anorecsia a bwlimia
Mae pobl sydd ag anorecsia yn ceisio lleihau faint o galorïau maen nhw’n eu bwyta. Efallai y byddan nhw hefyd yn ceisio colli pwysau drwy losgi unrhyw fwyd maen nhw wedi’i fwyta. Mae anorecsia yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn edrych yn dew, hyd yn oed os ydyn nhw’n denau iawn.
Mae pobl sydd â bwlimiayn gorfwyta mewn pyliau (yn bwyta llawer o fwyd ar yr un pryd) ac yna’n cael gwared ar y bwyd (fel arfer drwy wneud eu hunain yn sâl).
Mae’r ddau gyflwr yn golygu bod pobl yn poeni am eu pwysau neu siâp eu corff. Maen nhw hefyd yn pryderu am ennill unrhyw bwysau.
Mae anorecsia a bwlimia yn fathau o anhwylderau bwyta a gallant effeithio ar ferched a bechgyn. Ceisia help gydag anorecsia (Saesneg), bwlimia (Saesneg) neu orfwyta mewn pyliau (Saesneg).
Gorbryder (‘anxiety’) a phyliau o banig (‘panic attacks’)
Mae gorbryder yn deimlad anghyfforddus o fod ar bigau’r drain sy’n gallu gwneud i ti deimlo’n flinedig, yn ofidus, yn flin neu’n benysgafn, neu’n poeni’n ormod. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n normal teimlo’n bryderus o bryd i’w gilydd. Ond mae teimlo fel hyn yn rheolaidd yn gallu golygu bod rhai pobl yn cael trafferth mwynhau eu bywyd. Os yw hynny'n digwydd, mae'n bwysig cael cymorth neu ymweld â'th feddyg (Saesneg).
Mae gorbryder hefyd yn gallu achosi pyliau o banig (Saesneg). Mae pwl o banig yn digwydd pan fyddi di’n cael dy lethu’n sydyn gan ofn ac yn teimlo bod gen ti lai o reolaeth. Gall wneud i ti deimlo bod dy galon yn curo’n gyflym iawn, gan dy wneud yn fyr o wynt ac yn teimlo’n benysgafn. Mae pwl o banig yn gallu bod yn frawychus, ond ni fydd yn dy frifo di’n gorfforol.
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Mae gan rywun sydd ag ADHD (Saesneg) lawer o egni ac efallai y bydd yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar rywbeth am amser hir. Bydd hefyd yn ei chael yn anodd rheoli ei ymddygiad. Mae ADHD yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 100 o bobl ifanc ac mae’n fwy cyffredin mewn bechgyn na merched.
Anhwylder deubegynol (‘Bipolar disorder’)
Mae anhwylder deubegynol (a oedd yn arfer cael ei alw’n iselder manig) yn gyflwr iechyd meddwl sy’n golygu bod rhywun yn newid o fod yn orfywiog iawn (neu’n manig) i deimlo’n isel iawn. Gallech deimlo’n eithriadol o hapus neu’n eithriadol o isel am ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau.
Mae’n normal bod dy hwyliau’n newid bob diwrnod yn ogystal ag ychydig o weithiau yn ystod y dydd. Ond os yw’r newidiadau’n achosi problemau mewn bywyd bob dydd, efallai y bydd angen i ti weld meddyg (Saesneg) i gael help.
Mae’n effeithio ar oddeutu 5 mewn 100 o bobl ond mae’n anghyffredin mewn pobl ifanc. Efallai fod gan rai pobl y symptomau hyn ond nad oes ganddynt anhwylder deubegynol. Dim ond meddyg neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gallu diagnosio’r cyflwr.
Cer i wefan YoungMinds i gael rhagor o wybodaeth am anhwylder deubegynol (Saesneg).
Anhwylder personoliaeth ffiniol (Borderline Personality Disorder)
Mae anhwylder personoliaeth yn gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd rheoli meddyliau am sut rwyt ti’n dy weld dy hun, a sut rwyt ti’n delio â phobl eraill neu’n ymddwyn mewn perthynas â nhw.
Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) yw un o’r anhwylderau personoliaeth mwyaf cyffredin. Mae’n effeithio ar dy hwyliau a sut rwyt ti’n cyfathrebu â phobl eraill. Mae iddo lawer o symptomau gwahanol, ac efallai y bydd gan lawer o bobl heb BPD rai o’r symptomau hynny. P’un a oes gan rywun yr holl symptomau hyn neu ddim ond rhai ohonynt, mae ffyrdd o ymdopi.
Byw gydag Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
P’un ai wyt ti wedi cael diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu dy fod yn meddwl y gallai’r cyflwr fod arnat, mae pethau y galli di eu gwneud i ymdopi:
- Canolbwyntio ar rywbeth rwyt ti’n ei fwynhau. Gall hyn helpu i dynnu dy sylw oddi ar deimladau anodd.
- Chwilio am rywle lle rwyt ti’n teimlo’n dawel. Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd rheoli dy deimladau, gall cymryd amser i ymlacio wneud gwahaniaeth mawr.
- Gwneud cynllun ar gyfer adegau pan fydd pethau’n mynd yn ormod. Gallai olygu cael rhywle i fynd, rhywun i siarad â nhw neu wneud rhywbeth sy’n dy dawelu.
- Siarad â phobl eraill neu â chwnselydd Childline. Mae hyn yn gallu helpu i wneud synnwyr o deimladau dryslyd rwyt ti’n eu cael.
Dim ond meddyg neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gallu diagnosio Anhwylder Personoliaeth Ffiniol. Os wyt ti’n poeni am weld meddyg (Saesneg), gallet ymarfer beth rwyt ti eisiau ei ddweud gyda chwnselydd Childline.
Iselder (‘Depression’)
Pan fydd rhywun yn siarad am deimlo’n isel, gallent olygu llawer o bethau gwahanol. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud hyn pan fyddan nhw’n teimlo’n isel neu’n drist, a bydd gan bobl eraill ddiagnosis o iselder.
Cyflwr iechyd meddwl yw iselder, a dim ond meddyg all ei ddiagnosio. Does dim ots beth sy’n digwydd, mae ffyrdd o gael cymorth.
Mae’n normal teimlo’n drist neu’n isel weithiau. Ond os yw dy deimladau a’th feddyliau trist yn dy atal rhag mwynhau pethau yn dy fywyd roeddet ti’n arfer eu mwynhau, neu os wyt ti’n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw, mae’n bwysig siarad â meddyg (Saesneg).
Gall pobl deimlo’n isel ar ôl i rywbeth ddigwydd, fel rhywun agos atat ti’n marw. Weithiau mae’n anodd gweld unrhyw reswm pam dy fod ti’n teimlo’n isel.
Siarad â rhywun am sut rwyt ti’n teimlo yw’r cam cyntaf i gael help gydag iselder. Gallet ofyn i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo am help neu fynd i weld dy feddyg (Saesneg).
Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)
Mae OCD yn gyflwr iechyd meddwl sy’n gwneud i rywun feddwl am bethau drosodd a throsodd ac ailadrodd gweithred neu ymddygiad dro ar ôl tro. Gall hyn achosi llawer o bryder.
Efallai y bydd rhywun sydd ag OCD yn teimlo bod angen iddyn nhw gyflawni “defod” i helpu i reoli’r teimladau maen nhw’n eu cael.
Un enghraifft fyddai petai rhywun yn poeni am bacio’r llyfrau iawn i fynd i’r ysgol ac edrych yn eu bag sawl gwaith wedyn i wneud yn siŵr bod y llyfrau’n dal yno.
Dos i YoungMinds (Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.
Seicosis a chlywed lleisiau
Mae seicosis yn gyflwr iechyd meddwl sy’n achosi i bobl gael profiad o realiti sy’n wahanol iawn i brofiadau pobl eraill.
Gallai rhywun â seicosis:
- clywed, gweld neu synhwyro pethau nad yw pobl eraill yn eu clywed, gweld neu synhwyro
- cael meddyliau dryslyd neu baranoid, gan gynnwys poeni am yr hyn y gallai pobl eraill fod yn ei feddwl amdanyn nhw
- llefaru mewn ffordd gymysglyd
Gallai fod gan lawer o bobl y symptomau hyn ond nad ydynt yn dioddef o fath o seicosis.
Nid yw clywed, gweld neu synhwyro pethau nad yw pobl eraill yn eu clywed, gweld neu synhwyro o reidrwydd yn golygu bod gen ti seicosis neu anhwylder fel sgitsoffrenia. Mae siarad â thi dy hun neu wrando ar dy feddyliau yn wahanol i glywed lleisiau sydd y tu hwnt i’th reolaeth. Nid yw’r cyflyrau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n clywed lleisiau gan fod llawer o bethau gwahanol yn gallu sbarduno’r symptomau.
Dim ond meddyg (Saesneg) neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gallu diagnosio anhwylder seicotig.
Byw gyda seicosis
P’un ai wyt ti wedi cael diagnosis o seicosis ai peidio, mae rhai pethau y galli eu gwneud nawr i helpu i reoli’r symptomau.
- Mynd i weld dy feddyg (Saesneg). Os wyt ti’n poeni am anghofio’r hyn rwyt ti eisiau ei ddweud, beth am wneud rhestr atgoffa cyn mynd?
- Llunio cynllun ar gyfer yr adegau pan na fyddi di’n teimlo’n dda. Cynhwysa bethau a fydd yn helpu pobl eraill i sylwi pan wyt ti’n mynd drwy amser anodd a pha gymorth y gallai fod ei angen arnat.
Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)
Mae’n normal cael profiadau sy’n anodd ymdopi â nhw. Pan fydd rhywun yn teimlo bod eu bywyd mewn perygl, gall hyn fod yn drawmatig (Saesneg) a’i gwneud yn anodd ymdopi yn y dyfodol.
Ni fydd pawb sy’n cael profiad trawmatig yn cael PTSD. Ac efallai y byddi di’n ei chael hi’n anodd ymdopi ond nad oes PTSD arnat. Mae PTSD yn gallu gwneud i rywun:
- cael ôl-fflachiau, problemau cysgu a hunllefau
- mynd yn isel ei ysbryd
- ei chael yn anodd ymdopi, neu brofi problemau iechyd meddwl eraill.
Mae ffyrdd o ymdopi a chael help pan fyddi di wedi profi trawma (Saesneg). Os wyt ti'n meddwl bod PTSD arnat ti, mae'n bwysig dy fod yn mynd at feddyg i gael cymorth.
Dysgu mwy am PTSD ac ôl-fflachiau (Saesneg).
Sgitsoffrenia
Mae sgitsoffrenia yn gyflwr iechyd meddwl lle mae rhywun yn gallu ei chael hi’n anodd dweud beth sy’n real a beth sydd ddim. Dydy hynny ddim yn golygu bod rhywun sydd â sgitsoffrenia yn dreisgar. Mae hefyd yn anghywir meddwl bod sgitsoffrenia yn golygu bod gen ti ‘2 bersonoliaeth’.
Mae’n fath o seicosis, felly gallai rhywun sydd â sgitsoffrenia:
- clywed neu weld pethau nad yw pobl eraill yn eu clywed neu’u gweld (rhithweledigaethau)
- cael meddyliau cymysglyd neu ddryslyd (rhithdybiau)
- teimlo’n baranoiaidd, neu feddwl bod pobl yn eu herbyn neu’n ceisio eu brifo.
Gallai fod gan lawer o bobl y symptomau hyn ond nad ydynt yn dioddef o seicosis neu sgitsoffrenia. Dim ond meddyg (Saesneg) neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gallu diagnosio’r cyflwr.
Cer i wefan YoungMinds i gael rhagor o wybodaeth am sgitsoffrenia (Saesneg).
CAEL HELP GYDAG IECHYD MEDDWL
Bydd 1 o bob 4 person yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl ar ryw adeg. Os wyt ti’n poeni, galli fynd i weld y meddyg (Saesneg) i gael cymorth.
Gall roi cyngor a gwybodaeth i ti am yr hyn sy'n digwydd. Dim ond meddyg all wneud diagnosis o broblem iechyd meddwl a dy helpu gydag unrhyw driniaeth y bydd ei hangen arnat.
FIDEOS SY’N GALLU HELPU
Siarad yn agored am iechyd meddwl (Saesneg)
Olly Alexander o Years & Years yn sôn am siarad yn agored (Saesneg)
Siarad yn agored am broblemau iechyd meddwl (Saesneg)
CADW’R SGWRS I FYND
Mae siarad am broblem yn beth da. Ond beth am pan wyt ti wedi siarad â rhywun ond mae heb fod yn help?

Yn aml, proses yw siarad am fater pwysig. Nid rhywbeth rwyt ti’n ei wneud unwaith yn unig.
Gall dweud wrth rywun (Saesneg) sut rwyt ti’n teimlo, wneud i ti deimlo’n wael i ddechrau. Ond ar ôl siarad amdano ychydig o weithiau, gallet ddechrau teimlo’n wahanol.
A does dim rhaid rhoi gwybodaeth newydd chwaith. Weithiau gall siarad am yr un pethau dro ar ôl tro dy helpu i ddeall beth rwyt ti’n mynd drwyddo.
Felly cofia, os wyt ti wedi dweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo ond mae heb fod yn help – dal ati. A meddylia am bobl eraill rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw a allai helpu.
CAEL MWY O GYMORTH
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.











