GOFALU AMDANAT DY HUN

Gall llawer o bethau wneud i ti deimlo dy fod yn cael dy lethu, neu’n ddideimlad neu’n isel. Ond mae gennym awgrymiadau a syniadau i dy helpu i ymdawelu, i ofalu am dy hun ac i deimlo’n well.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

DYSGU YMDOPI

Mae gofalu amdanat dy hun yn golygu gwneud pethau er dy fwyn di i dy helpu i deimlo’n well.

Mae dysgu arafu dy feddyliau a newid sut rwyt ti’n gweld pethau yn gallu dy helpu i wneud y canlynol:

• teimlo’n well ac yn hapusach

• canolbwyntio, astudio neu weithio

• canfod ffyrdd newydd o ymdopi â sefyllfaoedd.

Mae hunanofal yn gallu cymryd amser ac ymarfer. Ond po fwyaf y byddi di’n gwneud hynny, yr hawsaf fydd hi.

FFYRDD O DEIMLO’N WELL

Rho gynnig ar un o’r pethau hyn bob dydd:

• Bod yn garedig wrthyt ti dy hun. Meddylia beth fyddet ti’n ei ddweud wrth ffrind pe baen nhw yn dy sefyllfa di.

 • Gwirio dy anghenion sylfaenol. Ystyria a wyt ti’n llwglyd, yn sychedig neu’n flinedig – a bwyta, yfed neu orffwys os oes angen.

• Canolbwyntio ar bethau y funud hon. Os wyt ti’n teimlo’n flin neu wedi dy lethu, tynna dy hun allan o’r sefyllfa drwy oedi am 30 eiliad a theimlo dy draed yn gadarn ar y llawr neu dy gefn yn erbyn cadair.

• Cymryd seibiant. Neilltua amser i wrando ar gerddoriaeth, mynd am dro neu gael sgwrs gyda theulu neu ffrindiau.

• Anadlu’n ddwfn. Cymer 5 anadl ddofn i mewn drwy dy drwyn ac allan drwy dy geg

• Bod yn garedig wrth bobl eraill. Helpa dy hun i deimlo’n falch neu’n dda drwy wneud rhywbeth caredig ar hap fel cynnig golchi llestri, gwneud paned o de i rywun neu fynd ati i wirfoddoli.

Dysgu dweud na. Meddylia amdanat dy hun cyn pobl eraill – os oes rhywun yn cymryd llawer o dy amser ac mae’n gwneud i ti deimlo dan straen neu wedi cynhyrfu, rho wybod iddyn nhw pan fydd angen seibiant arnat. Edrycha ar ein hawgrymiadau ar gyfer bod yn bendant (Saesneg).

Pethau i roi cynnig arnyn nhw nawr

Os wyt ti’n gwegian dan dy feddyliau neu dy deimladau, mae’n gallu helpu os wyt ti’n canolbwyntio ar bethau o dy gwmpas. Rho gynnig ar enwi:

  • 5 peth y galli di eu gweld
  • 4 peth y galli di eu cyffwrdd neu eu teimlo
  • 3 pheth y galli di eu clywed
  • 2 beth y galli di eu harogli
  • 1 peth y galli di ei flasu.

FIDEOS SY’N GALLU HELPU

Pan fyddi di’n teimlo dan straen neu’n cael dy lethu, mae’n gallu helpu i ganolbwyntio ar bethau yn y fan a'r lle. Gall canolbwyntio ar dy anadlu, sefydlu dy hun yn y foment neu ganolbwyntio ar dy gorff dy helpu i dawelu a theimlo dy fod yn gallu ymdopi’n well. Treulia ychydig o amser yn gwrando ar bob fideo. Galli eu chwarae gymaint o weithiau ag wyt ti eisiau.

Awgrymiadau anadlu i dy dawelu di (Saesneg)

Sut mae sefydlu dy hun yn y foment (Saesneg)

Ymarferion tawelu (Saesneg)

CREU TREFN IACH

Pan fyddi di’n teimlo’n isel, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r amser i wneud pethau bychain. Ond does dim ots sut wyt ti’n teimlo, mae ffyrdd o atgoffa dy hun i gadw trefn iach.

Gallet geisio:

• gosod nodyn atgoffa ar dy ffôn neu ysgrifennu nodyn i ti dy hun i gymryd seibiant pan fyddi di’n teimlo dan straen

• ymarfer gwahanol awgrymiadau o’r dudalen hon – gall gymryd amser i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i ti, felly beth am roi nod tudalen ar y dudalen hon neu ei chadw yn dy locer (Saesneg)

• rhannu syniadau a chael awgrymiadau gan bobl ifanc eraill ar ein byrddau negeseuon (Saesneg).

SUT MAE DECHRAU’R DIWRNOD MEWN FFORDD DDA

Un o rannau pwysicaf trefn dy ddiwrnod yw cael cychwyn da. Rho gynnig ar y pethau hyn wrth ddeffro:

  1. Rhoi mwy o amser i ti dy hun yn y bore – gosoda larwm ar yr un pryd bob dydd a rho 10 munud ychwanegol i ti dy hun fel nad oes angen i ti frysio
  2. Treulia ychydig funudau ar ôl deffro yn gofyn i ti dy hun sut rwyt ti’n teimlo
  3. Yfa wydraid o ddŵr i roi hwb i’r corff a’r meddwl
  4. Cymer gawod neu sblasio dy wyneb â dŵr oer i dy ddeffro
  5. Cymer frecwast bob amser
  6. Cymer 5 anadl ddofn i mewn drwy dy drwyn ac allan drwy dy geg
  7. Gwna ymarferion ymlaciol yn y bore (Saesneg).

GWNEUD NEWIDIADAU CADARNHAOL

CAEL HELP

Os wyt ti’n teimlo’n anniogel neu’n methu ymdopi ar dy ben dy hun, mae’n bwysig cael cymorth. Gallet:

• mynd i rywle diogel gydag oedolyn rwyt ti’n teimlo’n ddiogel gydag ef (Saesneg)
siarad â chwnselydd Childline ar-lein neu drwy ffonio 0800 1111
• ffonio 999 a gofyn am ambiwlans, neu ffonio’r rhif 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng.