
Cysylltu â Childline yn Gymraeg
Mae Childline yma i bob plentyn a pherson ifanc yn y D.U. Rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr y gallwn dy gefnogi'n well drwy'r iaith Gymraeg yn y dyfodol. Oeddet yn gwybod y gallwch chi gyfieithu ein gwefan i'r Gymraeg?
SIARAD Â CHILDLINE YN GYMRAEG
Fe alli gysylltu â Childline am unrhyw beth. Beth bynnag sy’n dy boeni, mae’n well ei rannu. Rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr y gallwn dy gefnogi'n well drwy'r iaith Gymraeg yn y dyfodol. Am y tro, os nad wyt yn ddigon hyderus i gysylltu â ni gan ddefnyddio Saesneg:
- Mae modd gweld gwefan Childline yn Gymraeg drwy ddefnyddio ein bar hygyrchedd
- Defnyddio tudalennau wedi'u cyfieithu, fel ein tudalen Gofalu Amdanat dy Hun i gael cymorth
Cofia, os wyt yn teimlo'n anniogel neu os oes angen cymorth ar unwaith, ffonia 999.
Sut i gyfieithu ein gwefan
Os nad yw tudalen ar gael yn y Gymraeg, mae modd cyfieithu gan ddefnyddio ein teclyn cyfieithu, ReciteMe:
3 ffaith am Childline
- Mae gennym gwnselwyr ym mhob rhan o’r DU, gan gynnwys Caerdydd a Phrestatyn.
- Fe sefydlwyd ni gyntaf yn 1986 gan Esther Rantzen, ac agorodd ein canolfan gyntaf yng Nghymru yn 1992.
- Mae ffonio Childline yn ddi-dâl ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn.
Addewid Cyfrinachedd
Mae cyfrinachedd yn golygu peidio â dweud wrth neb am beth rwyt ti wedi'i ddweud. Beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud, bydd hynny’n aros rhwng ti a Childline. Ac fe alli di deimlo’n ddiogel yn siarad â ni, yn gwybod na fydd neb arall yn dod i wybod. Os ydyn ni’n poeni am dy ddiogelwch, efallai bydd angen i ni chwilio am help i ti weithiau.
Yr unig droeon byddwn ni’n dweud wrth rywun beth rwyt ti wedi’i ddweud wrthym ydy:
- Os wyt ti’n gofyn i ni wneud hynny
- os ydyn ni’n credu bod dy fywyd di neu fywyd rhywun arall mewn perygl
- os wyt ti’n cael dy frifo gan rywun mewn safle o ymddiriedaeth sy’n gallu brifo plant eraill, fel athro, arweinydd crefyddol, hyfforddwr chwaraeon, swyddog heddlu neu feddyg
- os wyt ti’n dweud wrthym dy fod yn achosi niwed difrifol i rywun arall
- os wyt ti’n dweud wrthym am blentyn arall sy’n cael ei frifo ac nad yw’n gallu dweud wrth rywun neu nad yw’n deall beth sy’n digwydd iddo
- os yw'r gyfraith yn dweud wrthym fod rhaid i ni, er enghraifft ar gyfer achos llys.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am ein cyfrinachedd, fe alli di siarad â chwnselydd Childline neu ddarllen ein haddewid cyfrinachedd (yn agor yn Saesneg).
Cael rhagor o gymorth
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

