SUT YDW I’N DWEUD WRTH RYWUN MOD I’N HUNAN-NIWEIDIO?
Mae llawer o bobl ifanc wedi dweud mai dweud wrth rywun am eu hunan-niweidio oedd un o’r ffyrdd gorau o ymdopi. Mae siarad yn bwysig oherwydd mae’n golygu nad oes rhaid i ti ddelio â phopeth ar dy ben dy hun. Ond nid yw wastad yn hawdd. Mae’n aml yn anodd iawn gwybod pam dy fod yn hunan-niweidio. Mae egluro hyn i rywun arall yn gallu teimlo’n anoddach fyth. Felly sut galli di ddweud wrth rywun amdano?
Oes yna rywun yn dy fywyd rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus â nhw? Os wyt ti’n teimlo dy fod yn gallu ymddiried ynddyn nhw, gallet siarad yn agored â nhw. Gallai fod yn ffrind, yn athro, yn oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo (Saesneg), yn nyrs neu’n gwnselydd Childline.
Meddylia beth rwyt ti eisiau ei gael o'r sgwrs. Ysgrifenna beth rwyt ti eisiau ei ddweud cyn siarad â’r person. Gall hyn helpu i wneud yn siŵr nad wyt ti’n anghofio.
Ai eisiau i rywun arall wybod sut rwyt ti’n teimlo wyt ti? Neu wyt ti’n gobeithio y byddan nhw’n rhoi cymorth a syniadau ymarferol i ti er mwyn gwella? Mae’n iawn dweud wrthyn nhw beth rwyt ti’n gobeithio ei gael o’r sgwrs.
Os wyt ti’n dal yn ansicr sut i siarad â rhywun am hunan-niweidio, gallet baratoi gyda chwnselydd Childline.