
Hunanladdiad
Pan fydd pobl yn teimlo’n anobeithiol ac yn methu gweld unrhyw ffordd o wella pethau, maen nhw weithiau eisiau i’w bywyd ddod i ben. Ond gall pethau wella. Mae yna bobl sy’n gallu helpu.
Os wyt ti’n teimlo fel cymryd dy fywyd dy hun ac angen help ar unwaith, ffonia 999 neu ffonia Childline ar 0800 1111.
Pam ydw i’n gael teimladau hunanladdol?
Mae teimladau hunanladdol yn gallu digwydd i unrhyw un. A gallai gael ei sbarduno gan unrhyw beth bron. Fel bwlio, neu gael dy gam-drin (Saesneg). Ond gallai fod yn rhywbeth arall. Efallai nad wyt ti hyd yn oed yn siŵr pam dy fod yn teimlo fel hyn. Ond pa mor ddigalon neu anobeithiol bynnag rwyt ti’n teimlo, mae Childline yma i ti. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.
Gall teimladau hunanladdol effeithio ar unrhyw un, waeth pa mor hen ydyn nhw. Efallai y bydd pobl eisiau rhoi diwedd ar eu bywyd oherwydd:
- maen nhw’n teimlo y bydd yn gwneud i'w poen ddod i ben
- maen nhw’n teimlo y bydd yn cael gwared o deimladau negyddol
- maen nhw'n meddwl y bydd pobl eraill yn eu bywyd yn deall wedyn gymaint o boen maen nhw’n ei deimlo
- maen nhw’n teimlo y bydd hunanladdiad yn rhoi rheolaeth iddyn nhw.
Mae yna wastad ffyrdd eraill o ymdopi, hyd yn oed os nad yw’n teimlo felly ar hyn o bryd. Galli siarad â chwnselydd Childline am sut rwyt ti’n teimlo neu ddarllen ein hawgrymiadau ar sut i ymdopi â theimladau hunanladdol.
Pethau i’w cofio:
- gall meddyliau a theimladau am ladd dy hun gael eu sbarduno gan lawer o bethau gwahanol
- gall pethau wella
- dwed wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo
- Mae cwnselwyr Childline yma i dy helpu unrhyw bryd, ddydd neu nos
YMDOPI Â SUT RWYT TI’N TEIMLO
Canfod ffyrdd o ymdopi
Mae llawer o wahanol ffyrdd o dy helpu i ymdopi os byddi di’n teimlo fel lladd dy hun. Gall ymarfer corff helpu, neu gwneud rhywbeth creadigol, fel celf neu ysgrifennu. Mae llawer o bobl ifanc yn gwrando ar gerddoriaeth. Mae rhai pobl yn gosod nodau bach iddyn nhw eu hunain neu’n gwneud rhestr o unrhyw beth, hyd yn oed pethau bach, sy’n gwneud iddyn nhw wenu. Mae llawer o ffyrdd o ymdopi â theimlo’n isel neu brofi teimladau hunanladdol.
Edrycha ar ein cyngor ar ymdopi â theimladau hunanladdol i gael rhagor o syniadau am yr hyn y galli di ei wneud.
Siarad â rhywun
Mae dweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo yn helpu. Mae’n golygu nad oes rhaid i ti gario’r pwysau ar dy ben dy hun. A gall wneud iddi deimlo’n haws cario’r baich. Cofia fod gen ti reolaeth dros faint rwyt ti’n ei ddweud wrthyn nhw. Gallet ddweud popeth wrthyn nhw. Neu gallet ddweud dim ond ychydig bach. Dy ddewis di fydd hyn. Mae’n bwysig teimlo’n gyfforddus ynghylch faint rwyt ti’n ei ddweud wrth rywun.
Mae hefyd yn bwysig bod yn gyfforddus gyda’r person rwyt ti’n dweud wrtho. Gwna’n siŵr ei fod yn rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Gallai fod yn rhywun sydd wedi dy helpu di o’r blaen.
Gall fod yn frawychus dweud rhywbeth difrifol wrth rywun fel meddwl am ladd dy hun, ond gall siarad amdano fod yn rhyddhad. Mae’r ofn yn aml yn mynd heibio. Os nad wyt ti eisiau dweud wrthyn nhw wyneb yn wyneb, mae hynny’n iawn. Gallet ddweud wrthynt mewn llythyr, e-bost neu drwy lun.
Gweld meddyg
Os wyt ti’n cael teimladau hunanladdol, gall mynd i weld meddyg fod o gymorth mawr. Fydd meddygon ddim yn dy farnu di a byddan nhw'n cadw'r hyn rwyt ti wedi'i ddweud wrthyn nhw'n breifat, oni bai eu bod nhw'n meddwl dy fod ti mewn perygl difrifol. Efallai y byddi di’n gweld bod cael lle diogel i fod yn onest am sut rwyt ti’n teimlo yn helpu i godi’r straen oddi arnat ti ychydig bach.
Gallai meddyg dy helpu i feddwl am beth allai fod yn achosi i ti feddwl am ladd dy hun. Efallai y bydd hefyd yn gallu rhoi triniaeth i ti i dy helpu i wella. Efallai y byddan nhw’n trefnu math arall o gymorth proffesiynol – fel cwnsela neu therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).
Siarad â chwnselydd Childline
Mae ein cwnselwyr yma i dy helpu a dy gefnogi di. Byddan nhw bob amser yn gwrando arnat ac ni fyddan nhw byth yn dy feirniadu di.
Gall cwnselydd Childline dy helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi. A dal ati i dy gefnogi di nes bydd pethau’n dechrau newid. Ac ni fyddan nhw’n dweud wrth neb beth rwyt ti wedi’i ddweud, oni bai fod dy fywyd mewn perygl.
Arwyddion y gallai rhywun fod yn cael teimladau hunanladdol
Gallai rhywun sy’n teimlo fel dod a’i fywyd i ben:
- fod yn teimlo’n isel (Saesneg) neu wedi encilio (efallai na fyddan nhw eisiau gweld eu ffrindiau neu wneud pethau maen nhw’n hoffi eu gwneud fel arfer)
- dechrau gwneud pethau peryglus megis cymryd cyffuriau (Saesneg) neu yfed alcohol (Saesneg)
- rhoi pethau sy'n eiddo iddyn nhw i eraill
- rhoi’r gorau i ofalu amdanynt eu hunain (efallai na fyddan nhw’n ymolchi mor aml na’n poeni cymaint am eu hymddangosiad ag yr oedden nhw’n arfer ei wneud)
Gallai rhywun sy’n teimlo fel lladd ei hun ddweud pethau fel:
- “Mi fydd drosodd yn fuan”
- “Bysai’n well i fi pe bawn i’n farw”
- “Dydw i ddim eisiau bod yma dim mwy”
- “Fydd neb yn gweld fy ngholli i”
Helpu ffrind sy’n cael teimladau hunanladdol
Gofalu am dy ffrind yw'r peth gorau y gallet ti ei wneud. Gall dim ond bod yno ar eu cyfer eu helpu i ddechrau teimlo'n well. Gwranda ar eu stori. Efallai y bydd dy ffrind yn dweud wrthot ti pam eu bod nhw’n teimlo'n drist neu'n anobeithiol. Dyweda dy fod di’n deall pam y gallen nhw deimlo fel hyn - ond dyweda wrthyn nhw nad wyt ti am iddyn nhw ymateb trwy ddiweddu eu bywyd eu hunain.
Mae pobl sy'n teimlo'n hunanladdol yn aml yn teimlo'n anobeithiol. Ond fe allet ti roi gobaith yn ôl i'ch ffrind. Awgryma gynlluniau ar gyfer y dyfodol neu bethau y gallwch chi eu gwneud gyda'ch gilydd. Gallai fod yn unrhyw beth, fel taith feicio gyda'i gilydd neu daith i'r sinema bob wythnos. Gallai hyd yn oed fod yn rhywbeth bach fel chwarae gêm gyfrifiadur gyda'ch gilydd. Cofia nad yw’n dy gyfrifoldeb ti yn unig i helpu nhw i ymdopi.
Dyweda wrth eich ffrind pa mor bwysig ydyn nhw i ti. Meddylia yn ofalus amdanyn nhw a dyweda wrthyn nhw pam eu bod nhw'n ffrind da i ti.
Gallet ti hefyd annog dy ffrind i siarad â chynghorydd Childline neu feddyg. Mae'n help mawr i siarad â rhywun. Efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n haws siarad â rhywun nad ydyn nhw'n ei adnabod.
Cofia nad wyt ti’n gyfrifol am atal dy ffrind rhag brifo'i hun. Mae'n bwysig dy fod ti’n cael cefnogaeth hefyd. Os yw helpu dy ffrind yn anodd neu'n ofidus, gallet ti siarad â chynghorydd Childline am gefnogaeth hefyd.
Colli rhywun drwy hunanladdiad
Os bydd rhywun yn cymryd ei fywyd ei hun, mae’n peri gofid mawr i’w ffrindiau a’i deulu. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i rywbeth fel hyn. Ond efallai y byddi di’n teimlo’n ddryslyd neu’n flin. Mae rhai pobl yn teimlo cywilydd. Ac mae pobl eraill yn meddwl tybed a oes rhywbeth y gallen nhw fod wedi’i wneud i atal eu ffrind, eu rhiant neu eu brawd neu chwaer rhag gorffen eu bywyd. Mae’r rhain i gyd yn adweithiau naturiol. Ond cofia na wnaeth y person ladd ei hun oherwydd rhywbeth wnes di neu rywbeth wnes di ddim.
Galli gael cymorth drwy:
- edrych ar ein tudalen sy’n trafod pan fydd rhywun yn marw (Saesneg)
- rhannu sut rwyt ti’n teimlo gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo (Saesneg)
- siarad â chwnselydd am sut rwyt ti’n teimlo.
Ydy hunan-niweidio yr un fath â theimlo fel lladd dy hun?
Mae hunan-niweidio (Saesneg) yn digwydd pan fydd rhywun yn brifo ei hun yn fwriadol. Gall fod yn ffordd o ddelio â theimladau anodd neu boenus. Os bydd rhywun yn hunan-niweidio, dydy hynny ddim bob amser yn golygu ei fod yn teimlo fel lladd ei hun.
Mae rhai mathau o hunan-niweidio yn gallu bod yn beryglus iawn. Gallai beryglu bywyd rhywun, hyd yn oed os nad yw eisiau lladd ei hun. Os wyt ti neu ffrind wedi hunan-niweidio a dy fod ti’n meddwl y gallai fod yn beryglus, gofynna am gymorth ar unwaith drwy ffonio 999.
Pwy sy’n hunan-niweidio?
Mae rhai mythau am y math o berson sy’n hunan-niweidio. Ond mae llawer o wahanol fathau o bobl yn cael problemau hunan-niweidio. Bechgyn a merched. Ifanc a hen. Pobl o wahanol gefndiroedd ac sydd â chwaethau gwahanol o ran cerddoriaeth. Mae hunan-niweidio yn effeithio ar lawer o bobl. Y peth pwysig i’w gofio yw nad wyt ti ar dy ben dy hun ac y galli di gael help.
CAEL MWY O GYMORTH
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.





