Ymdopi â meddyliau a theimladau am hunanladdiad

Mae nifer o bobl yn meddwl am hunanladdiad ar ryw adeg yn eu bywydau. Hunanladdiad yw’r weithred fwriadol o ladd eich hun. Efallai dy fod yn teimlo ar dy ben dy hun ac efallai ei bod yn anodd gwybod beth i’w wneud. Ond gallwn dy helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi. Efallai na fydd pethau’n newid ar unwaith. Ond galli ddechrau teimlo’n well.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Cael cymorth

Mae’n bwysig iawn siarad â rhywun os wyt ti’n cael teimladau hunanladdol neu os wyt ti’n poeni y byddi di’n niweidio dy hun.

Galli di ffonio 0800 1111 i siarad â chwnselydd Childline unrhyw bryd. Maen nhw yno i helpu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Galli di hefyd drefnu siarad â chwnselydd sydd yn siarad Cymraeg. Os yw’n argyfwng neu os oes angen help arnat ar unwaith, ffonia 999.

Cadwa dy hun yn ddiogel

Mae cymryd cyffuriau (Saesneg) neu yfed alcohol (Saesneg) yn ei gwneud yn anodd meddwl yn glir a gwneud penderfyniadau da. Mae alcohol hefyd yn iselydd sy’n gwneud teimladau am ladd dy hun yn waeth fyth.

Os oes gen ti unrhyw gyffuriau, fflysia nhw i ffwrdd. Os oes gen ti unrhyw beth a allai achosi niwed i ti, cer ati i gael gwared arno. Hefyd mae bod gyda rhywun yn helpu, yn hytrach na bod ar dy ben dy hun.

5 peth y galli di eu gwneud

1. hobïau neu bethau rwyt ti’n eu mwynhau fel gwrando ar gerddoriaeth (nid rhywbeth a allai wneud pethau’n waeth fel cyffuriau nac alcohol)

2. gweithgarwch corfforol fel chwaraeon, dawnsio, loncian neu ioga

3. siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo neu ag eraill ar ein byrddau negeseuon (Saesneg)

4. rhywbeth sy’n gwneud i ti deimlo dy fod wedi cyflawni rhywbeth, fel tynnu llun neu wneud pos

5. edrych ar lun o rywun sydd wir yn meddwl y byd ohonot ti.

 

Gwneud cynllun diogelwch

Mae cael cynllun diogelwch y galli edrych arno pan fyddi di’n cael teimladau hunanladdol yn gallu dy helpu i ymdopi. Ceisia ysgrifennu atebion i’r pwyntiau isod a’u cadw mewn lle diogel er mwyn i ti allu eu defnyddio pan fyddi di’n ei chael hi’n anodd ymdopi.

Mae ein cwnselwyr bob amser yma i ti a gallant dy helpu i ysgrifennu dy gynllun diogelwch.

 Ceisia feddwl am y canlynol:

  • Ffyrdd o gadw dy hun yn ddiogel
  • Lle diogel i fynd
  • Unrhyw beth sydd wedi helpu yn y gorffennol ar ôl i ti gael y meddyliau hyn
  • Unrhyw feddyliau neu deimladau cadarnhaol y gallet ti geisio canolbwyntio arnyn nhw yn lle’r meddyliau drwg
  • Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth ffrind a oedd yn cael y teimladau hyn
  • Rhywun y galli di siarad ag ef, fel cwnselydd Childline neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo (Saesneg).

 

Awgrymiadau sy’n gallu helpu

Illustration of a person holding a balloon with a smiling face

canfod beth
sy’n gwneud i mi
deimlo’n dda

Cei ragor o syniadau ar ein byrddau negeseuon (Saesneg)

Defnyddio dy synhwyrau i ymdopi

Mae dy 5 synnwyr yn arfau pwerus. Maen nhw wir yn gallu codi dy hwyliau os wyt ti’n mynd drwy gyfnod anodd neu’n teimlo fel lladd dy hun. Dyma rai syniadau.

SIARAD Â RHYWUN

Mae siarad â rhywun am sut rwyt ti’n teimlo yn rhan bwysig iawn o gael help. Mae’n golygu nad oes rhaid i ti ddelio â phopeth ar dy ben dy hun.

Ond nid yw bob amser yn hawdd gwneud hyn. Gall disgrifio sut rwyt ti’n teimlo fod yn beth brawychus iawn.

Rho gynnig ar ein hawgrymiadau i’w gwneud yn haws siarad:

Illustration of a pencil

  • cynllunio a pharatoi beth rwyt ti am ei ddweud
  • ysgrifennu beth rwyt ti am ei ddweud ac ymarfer ei ddweud
  • meddwl am y prif bethau rwyt ti am eu cael drwy siarad â rhywun
  • gofyn i ti dy hun a wyt ti eisiau cyngor, neu ai dim ond dweud sut rwyt ti’n teimlo
  • ceisia siarad pan nad yw’r person yn brysur neu ar fin rhuthro i rywle.

Cadw'r sgwrs i fynd

Mae siarad am broblem yn beth da. Ond beth am pan wyt ti wedi siarad â rhywun ond mae heb fod yn help?

Mae siarad am fater yn aml yn broses. Nid rhywbeth rwyt ti’n ei wneud unwaith yn unig.

Gall dweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo wneud i ti deimlo’n wael i ddechrau. Ond ar ôl siarad amdano ychydig o weithiau, gallet ddechrau teimlo’n wahanol.

Illustration of a watch

A does dim rhaid rhoi gwybodaeth newydd chwaith. Weithiau gall siarad am yr un pethau dro ar ôl tro dy helpu i ddeall beth rwyt ti’n mynd drwyddo.

Felly cofia, os wyt ti wedi dweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo ond mae heb fod yn help – dal ati. A meddylia am bobl eraill rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw a allai helpu.

Galli siarad â ni am unrhyw beth

Beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud, bydd hynny’n aros rhyngot ti a Childline. Ac fe alli di deimlo’n ddiogel yn siarad â ni, yn gwybod na fydd neb arall yn dod i wybod.

Darllen mwy am ein haddewid cyfrinachedd (Saesneg).

Rhywle newydd