Mae pethau wedi bod yn wahanol iawn oherwydd coronafeirws a’r cyfyngiadau symud. Efallai dy fod wedi rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol neu glybiau, neu heb weld dy ffrindiau a dy deulu. Ond mae'r rheolau'n newid, sy'n golygu y cei weld pobl o'r tu allan i dy gartref a mynd yn ôl i'r ysgol.
Efallai dy fod yn poeni am y canlynol:
- pethau sydd wedi digwydd i ti neu i bobl eraill
- sut rwyt ti wedi bod yn teimlo
- mynd yn ôl i’r ysgol neu fynd allan eto
- cael cefnogaeth pan fyddi di’n teimlo’n ofnus
Efallai fod ofn arnat ti oherwydd bod rhywun wedi dy frifo, neu eu bod wedi dweud wrthyt ti y byddan nhw’n gwneud rhywbeth drwg os byddi di’n siarad am bethau. Ond gall siarad â rhywun arall dy helpu i deimlo’n ddiogel, a dy helpu di a dy deulu.