Cael help i gadw’n ddiogel

Os oes rhywbeth wedi digwydd yn ystod y cyfyngiadau symud a bod angen help arnat ti, rydym ni yma i ti.

Ymdopi ar ôl cyfyngiadau symud

Mae pethau wedi bod yn wahanol iawn oherwydd coronafeirws a’r cyfyngiadau symud. Efallai dy fod wedi rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol neu glybiau, neu heb weld dy ffrindiau a dy deulu. Ond mae'r rheolau'n newid, sy'n golygu y cei weld pobl o'r tu allan i dy gartref a mynd yn ôl i'r ysgol.

Efallai dy fod yn poeni am y canlynol:

  • pethau sydd wedi digwydd i ti neu i bobl eraill
  • dy iechyd meddwl, neu sut rwyt ti wedi bod yn teimlo
  • mynd yn ôl i’r ysgol neu fynd allan eto
  • cael cefnogaeth pan fyddi di’n teimlo’n ofnus

Efallai fod ofn arnat ti oherwydd bod rhywun wedi dy frifo, neu eu bod wedi dweud wrthyt ti y byddan nhw’n gwneud rhywbeth drwg os byddi di’n siarad am bethau. Ond gall siarad â rhywun arall dy helpu i deimlo’n ddiogel, a dy helpu di a dy deulu.

Ffyrdd o gael cymorth

Mae sawl ffordd y galli di gael cymorth:

Beth sy’n digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Childline?

Fydd pobl yn fy nghredu i?

Gall fod yn anodd siarad am gamdriniaeth neu am gael dy frifo pan fydd yn ymwneud â rhywun rwyt ti’n ei garu neu sy’n poeni amdanat ti. Yn enwedig os ydyn nhw wedi gwneud pethau i ddangos eu bod yn poeni amdanat ti neu yn dy gefnogi mewn ffyrdd eraill.

Dywedir wrth lawer o blant a phobl ifanc na fydd neb yn eu credu os byddan nhw’n siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, ond nid yw hyn yn wir.

Bydd pobl fel athrawon, meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion yr heddlu bob amser yn gwrando arnoch. Os byddi di’n dweud wrth rywun fel athro, byddan nhw eisiau dy helpu di ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i helpu i dy gadw’n ddiogel.

Pethau y gallet fod yn poeni amdanynt

Efallai:

  • Bod rhywun wedi dweud wrthyt ti na fydd neb yn dy gredu
  • Byddi di’n teimlo na fydd neb arall yn poeni amdanat ti
  • Byddi di’n meddwl mai dy fai di yw pethau neu mai ti fydd yn cael y bai
  • Bydd ofn arnat ti gael dy frifo neu y bydd rhywbeth drwg yn digwydd os byddi di’n dweud
  • Byddi di’n poeni am gael rhywun mewn trwbl

Nid oes ots beth rwyt ti’n poeni amdano, rwyt ti’n haeddu cefnogaeth i newid pethau.

teimlo

na fyddai

neb yn

DEALL

Cael cefnogaeth gan ein cwnselwyr

Beth yw cam-drin?

Gall camdriniaeth fod yn unrhyw beth y mae person arall yn ei wneud sy’n dy frifo, neu sy’n dy wneud yn ofnus neu’n ypset. Gall hefyd fod pan nad yw dy riant neu ofalwr yn gofalu amdanat ti. Dydy cam-drin byth yn iawn ac nid ti sydd ar fai.

Weithiau, gallai’r sawl sydd yn dy gam-drin fod yn rhywun sydd yn dy garu. Efallai fod rhywun wedi treulio amser yn gwneud i ti deimlo eu bod yn poeni amdanat ti er mwyn iddyn nhw allu dy gael i wneud pethau na fyddet ti fel arfer yn eu gwneud. Gallai hyn fod yn rhywun sy’n oedolyn neu’n rhywun sy’n nes at dy oed.

Gall camdriniaeth ddigwydd i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn dweud wrth rywun?

Mae gan wahanol weithwyr proffesiynol (fel meddygon ac athrawon) reolau gwahanol ynghylch cadw rhywbeth yn breifat neu’n gyfrinachol. Eu gwaith nhw yw gwrando arnat ti a helpu i dy gadw’n ddiogel, felly os byddi di’n dweud rhywbeth wrthyn nhw sy’n eu poeni, byddan nhw eisiau gwneud rhywbeth i helpu.

Galli ofyn am gyfrinachedd a beth sy’n gallu cael ei gadw’n breifat cyn dweud unrhyw beth. Mae’n iawn holi hefyd beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai na fydd y person y byddi’n siarad ag ef bob amser yn gallu dweud wrthyt ti’n syth, ond dylai esbonio beth mae am ei wneud a gofyn beth yr hoffet ei weld yn digwydd.

Os nad wyt ti’n teimlo’n barod i siarad, gallet ti helpu drwy roi cynnig ar siarad â Childline am y peth yn gyntaf. Mae Childline yn gyfrinachol, felly mae beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud yn aros rhwng Childline a thi. Byddwn ni’n dweud neu’n gwneud rhywbeth dim ond:

  • os wyt ti’n gofyn i ni wneud hynny
  • os ydyn ni’n credu bod dy fywyd di neu fywyd rhywun arall mewn perygl
  • os wyt ti’n cael dy frifo gan rywun mewn safle o ymddiriedaeth sy’n gallu brifo plant eraill, fel athro, arweinydd crefyddol, hyfforddwr chwaraeon, swyddog heddlu neu feddyg
  • os wyt ti’n dweud wrthym dy fod yn achosi niwed difrifol i rywun arall
  • os wyt ti’n dweud wrthym am blentyn arall sy’n cael ei frifo ac nad yw’n gallu dweud wrth rywun neu nad yw’n deall beth sy’n digwydd iddo
  • os yw'r gyfraith yn dweud wrthym fod rhaid i ni, er enghraifft ar gyfer achos llys.