Cael help ar ôl y cyfyngiadau symud

Os oes rhywbeth wedi digwydd yn ystod y cyfyngiadau symud a bod angen help arnat ti, rydym ni yma i ti.

Ymdopi ar ôl cyfyngiadau symud

Mae pethau wedi bod yn wahanol iawn oherwydd coronafeirws a’r cyfyngiadau symud. Efallai dy fod wedi rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol neu glybiau, neu heb weld dy ffrindiau a dy deulu. Ond mae'r rheolau'n newid, sy'n golygu y cei weld pobl o'r tu allan i dy gartref a mynd yn ôl i'r ysgol.

Efallai dy fod yn poeni am y canlynol:

  • pethau sydd wedi digwydd i ti neu i bobl eraill
  •  sut rwyt ti wedi bod yn teimlo
  • mynd yn ôl i’r ysgol neu fynd allan eto
  • cael cefnogaeth pan fyddi di’n teimlo’n ofnus

Efallai fod ofn arnat ti oherwydd bod rhywun wedi dy frifo, neu eu bod wedi dweud wrthyt ti y byddan nhw’n gwneud rhywbeth drwg os byddi di’n siarad am bethau. Ond gall siarad â rhywun arall dy helpu i deimlo’n ddiogel, a dy helpu di a dy deulu.

Ffyrdd o gael cymorth

Mae sawl ffordd y galli di gael cymorth:

Beth yw cam-drin?

Gall camdriniaeth fod yn unrhyw beth y mae person arall yn ei wneud sy’n dy frifo, neu sy’n dy wneud yn ofnus neu’n ypset. Gall hefyd fod pan nad yw dy riant neu ofalwr yn gofalu amdanat ti. Dydy cam-drin byth yn iawn ac nid ti sydd ar fai.

Gall camdriniaeth ddigwydd i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Gwahanol fathau o gam-drin

Nid yw bob amser yn hawdd dweud ai cam-drin yw rhywbeth neu beidio. Ond os oes rhywbeth wedi digwydd a bod hyn yn gwneud i ti deimlo’n wael, mae siarad amdano bob amser yn help.

Gall camdriniaeth gynnwys:

  •  Cam-drin corfforol – Cael dy frifo neu dy anafu’n gorfforol gan rywun arall
  •  Cam-drin rhywiol – Rhywun yn gofyn i ti wneud rhywbeth gyda dy gorff neu gorff rhywun arall sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus
  • Cam-drin emosiynol – Cael dy fychanu, cael dy alw’n enwau, cael dy  anwybyddu neu gael dy wneud i deimlo’n wael amdanat ti dy hun bob amser
  • Esgeulustod – Pan nad yw dy anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu, fel dillad sy’n ffitio, bwyd neu le i fyw

Fydd pobl yn fy nghredu i?

Gall fod yn anodd siarad am gamdriniaeth neu am gael dy frifo pan fydd yn ymwneud â rhywun rwyt ti’n ei garu neu sy’n poeni amdanat ti. Yn enwedig os ydyn nhw wedi gwneud pethau i ddangos eu bod yn poeni amdanat ti neu yn dy gefnogi mewn ffyrdd eraill.

Dywedir wrth lawer o blant a phobl ifanc na fydd neb yn eu credu os byddan nhw’n siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, ond nid yw hyn yn wir.

Bydd pobl fel athrawon, meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion yr heddlu bob amser yn gwrando arnoch. Os byddi di’n dweud wrth rywun fel athro, byddan nhw eisiau dy helpu di ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i helpu i dy gadw’n ddiogel.

Pethau y gallet fod yn poeni amdanynt

Efallai:

  • Bod rhywun wedi dweud wrthyt ti na fydd neb yn dy gredu
  • Byddi di’n teimlo na fydd neb arall yn poeni amdanat ti
  • Byddi di’n meddwl mai dy fai di yw pethau neu mai ti fydd yn cael y bai
  • Bydd ofn arnat ti gael dy frifo neu y bydd rhywbeth drwg yn digwydd os byddi di’n dweud
  • Byddi di’n poeni am gael rhywun mewn trwbl

Nid oes ots beth rwyt ti’n poeni amdano, rwyt ti’n haeddu bod yn hapus ac yn ddiogel.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn dweud wrth rywun?

Mae gan wahanol weithwyr proffesiynol (fel meddygon ac athrawon) reolau gwahanol ynghylch cadw rhywbeth yn breifat neu’n gyfrinachol. Eu gwaith nhw yw gwrando arnat ti a helpu i dy gadw’n ddiogel, felly os byddi di’n dweud rhywbeth wrthyn nhw sy’n eu poeni, byddan nhw eisiau gwneud rhywbeth i helpu.

Galli ofyn am gyfrinachedd a beth y gellir ei gadw’n breifat cyn dweud unrhyw beth. Mae’n iawn holi hefyd beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai na fydd y person y byddi’n siarad ag ef bob amser yn gallu dweud wrthyt ti’n syth, ond dylai esbonio beth mae am ei wneud a gofyn beth yr hoffet ei weld yn digwydd.

Os nad wyt ti’n teimlo’n barod i siarad, gallet ti helpu drwy roi cynnig ar siarad â Childline am y peth yn gyntaf. Mae Childline yn gyfrinachol, felly mae beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud yn aros rhwng Childline a thi. Byddwn ni’n dweud neu’n gwneud rhywbeth dim ond:

  • os wyt ti’n gofyn i ni wneud hynny
  • os ydyn ni’n credu bod dy fywyd di neu fywyd rhywun arall mewn perygl
  • os wyt ti’n cael dy frifo gan rywun mewn safle o ymddiriedaeth sy’n gallu brifo plant eraill, fel athro, arweinydd crefyddol, hyfforddwr chwaraeon, swyddog heddlu neu feddyg
  • os wyt ti’n dweud wrthym dy fod yn achosi niwed difrifol i rywun arall
  • os wyt ti’n dweud wrthym am blentyn arall sy’n cael ei frifo ac nad yw’n gallu dweud wrth rywun neu nad yw’n deall beth sy’n digwydd iddo
  • os yw'r gyfraith yn dweud wrthym fod rhaid i ni, er enghraifft ar gyfer achos llys.