
HYGYRCHEDD
Defnyddia’r bar offer hygyrchedd ReciteMe i gyfieithu’r holl safle i’r Gymraeg a’i wneud yn haws ei ddefnyddio.
Rhoi’r bar offer hygyrchedd ar waith
Mae modd rhoi’r bar offer hygyrchedd ar waith drwy ddefnyddio’r botwm isod:
Mae dolen i’r bar ar waelod pob tudalen ar y safle.
Bydd y bar offer yn rhoi testun-i-lais ar waith yn awtomatig. Os nad wyt ti eisiau defnyddio hwn, pwysa’r botwm gosodiadau, ac wedyn diffodd autoplay. Mae modd diffodd y bar offer unrhyw bryd drwy bwyso’r botwm “X”.
SUT MAE DEFNYDDIO’R BAR OFFER
Edrycha ar: Defnyddio'r bar offer
Cyfieithu testun neu gael diffiniadau o eiriau

Cyfieithu unrhyw dudalen ar y wefan, mae hyn yn cael ei wneud yn awtomatig felly efallai na fydd yn gywir bob tro.
Amlyga unrhyw air a dewis y botwm geiriadur i gael diffiniad.
Translate text or get definitions of words

Translate any page on the website, remember that this is automatic so might not always be accurate.
Highlight any word and select the dictionary button to get a definition.
Newid maint neu arddull y testun

Dewisa’r ffont rwyt ti eisiau ei ddefnyddio.
Defnyddia’r botymau + a – i newid maint y testun.
Change the text size or style

Choose the font you want to use.
Use the + and – buttons to change the size of text.
Gosod pren mesur darllen neu fasg i helpu

Pwysa’r pren mesur i roi’r pren mesur darllen ar waith.
Bydd y masg sgrin yn creu blwch llythyrau sydd ond yn dangos rhan o’r dudalen.
Set a reading ruler or mask to help you focus

Press the ruler to turn on the reading ruler.
The screen mask will create a letterbox that only shows part of the page.
Darllen testun yn uchel

Pwysa Chwarae i ddarllen y testun yn uchel.
Defnyddia’r botymau ymlaen ac yn ôl i neidio ymlaen neu ailadrodd paragraff. Mae modd amlygu testun hefyd i’r teclyn ei ddarllen yn uchel.
Read text out loud

Press Play to read the text out loud.
Use the forward and back buttons to skip ahead or repeat a paragraph. You can also highlight text for the tool to read out loud for you.
Gweld unrhyw dudalen fel testun yn unig

Dewisa’r modd testun plaen i dynnu delweddau a gweld y dudalen mewn testun plaen. Mae modd addasu ymylon y testun hefyd.
View any page as text only

Select plain text mode to remove images and view the page in plain text. You can also adjust the text margins.
Defnyddio chwyddwydr

Dewisa’r chwyddwydr i chwyddo unrhyw destun neu ddelweddau.
Use a magnifying glass

Select the magnifying glass to make any text or images bigger.
RHAGLENNI DARLLEN SGRIN A LLWYBRAU BYR BYSELLFWRDD
Mae gan wefan Childline fysellau mynediad arbennig:
- Alt ac 1 i fynd i'r hafan.
- Alt a 0 i fynd at ein gwybodaeth hygyrchedd.
Wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin, mae modd pwyso Alt ac S i osgoi’r gwe-lywio ar ein tudalennau.
Screen readers and keyboard shortcuts
The Childline website has special access keys:
- Press Alt and 1 to go to the homepage.
- Press Alt and 0 to go to our accessibility information.
If you're using a screen reader, you can press Alt and S to skip navigation on our pages.
DEFNYDDIO CHILDLINE OS WYT TI’N FYDDAR
Mae SignVideo yn golygu bod modd cysylltu â chwnselydd drwy ddehonglydd BSL. Mae’r gwasanaeth ar gael Llun – Gwener, 8am - 8pm ac ar ddydd Sadwrn, 8am - 1pm.
Sut mae defnyddio SignVideo:
- Agora SignVideo a chlicio "allow webcam".
- Ar ôl cysylltu, bydd dehonglydd yn ymddangos ar y sgrin.
- Mae modd sgwrsio â’r dehonglydd mewn BSL.
- Bydd yn cyfieithu’r sgwrs i'r cwnselydd.
Anfon neges o gyfrif Childline
Defnyddia dy gyfrif Childline i anfon e-bost ac fe gei di ateb o fewn 24 awr. Efallaii na fyddwn ni’n gallu dy gefnogi’n Gymraeg yn syth, a byddwn fel arfer yn ateb yn Saesneg i ddechrau. I’n helpu ni i dy gefnogi’n well, copïa a gluda hyn ar ddechrau dy neges: “I would like to speak to Childline in Welsh, please pass this message to a Welsh speaking counsellor”
Cael sgwrs un-i-un ar-lein
Mae modd siarad â chwnselydd ar-lein, ond yn anffodus fydd y bar offer hygyrchedd ddim yn gweithio ar gyfer sgyrsiau un-i-un. Efalla na fydd y person ti’n ei gyrraedd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrtho’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad yn Gymraeg, bydd yn gweld a oes rhywun ar gael.
Cysylltu â Childline os ydych yn fyddar
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.


