Dod Allan o’r Cyfnod Clo

Efallai fod y cyfnod clo wedi bod yn amser anodd iawn i ti, ond mae help ar gael bob amser.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Dilyn y canllawiau diweddaraf

Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo, mae’n dal yn bwysig dilyn canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar y cyfyngiadau.

Mae’n dal yn bwysig iawn cadw pellter cymdeithasol am y tro, sy’n cynnwys:

  • cadw dau fetr (neu ddau gam mawr) i ffwrdd oddi wrth unrhyw un nad wyt ti’n byw gyda nhw
  • gwisgo masg neu orchudd wyneb os galli di
  • golchi dy ddwylo’n rheolaidd, am o leiaf 20 eiliad
  • defnyddio hylif diheintio dwylo
  • peidio ag ysgwyd dwylo na rhoi cwtsh i bobl nad wyt ti’n byw gyda nhw.

Mae mwy o gyngor ar gadw pellter cymdeithasol ar gael ar wefan y Llywodraeth

Ffyrdd o ddelio â gorbryder

  • rhoi cynnig ar weithgareddau ymlacio yn ein Calm Zone (Saesneg)
  • adnabod meddyliau negyddol er mwyn ceisio newid dy ffordd o feddwl
  • siarad ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, neu un o gwnselwyr Childline
  • cadw dyddiadur er mwyn helpu i ryddhau dy deimladau 

 

Iechyd Meddwl

Efallai dy fod yn teimlo bod dy iechyd meddwl wedi dioddef oherwydd y cyfnod clo. Mae’n bosib bod gorfod aros gartref am gyfnod mor hir wedi bod yn anodd iawn. Gallai hyn fod wedi gwneud i ti deimlo’n isel.

Efallai fod y pandemig hefyd wedi gwneud i ti boeni mwy a theimlo’n fwy pryderus. Mae’n bosib bod hyn wedi bod yn waeth oherwydd dy fod methu gweld pobl sy’n dy gefnogi, fel cwnselydd yn yr ysgol neu wasanaethau iechyd meddwl.

Rwyt ti’n haeddu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnat ti a bod yn hapus. Os wyt ti’n teimlo dy fod yn cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, galli di bob amser siarad ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel dy feddyg teulu neu gwnselydd yn yr ysgol.

Gwaith Ysgol

Efallai dy fod yn teimlo ar ei hôl hi gyda dy waith ysgol a gall hyn yn achosi llawer o straen. Mae’n ddealladwy os nad oeddet ti’n gallu dal i fyny â dy holl waith ysgol yn ystod y cyfnod clo, dyma’r tro cyntaf i ti orfod astudio gartref am gyfnod mor hir.

Efallai nad wyt ti chwaith yn hoffi dy fod yn cael asesiadau yn hytrach nag arholiadau eleni. Mae cael dy asesu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn yn gallu bod yn straen. Gallet ti hefyd fod yn poeni am sut gallai eleni effeithio ar dy ddyfodol a pha newidiadau allai ddigwydd y flwyddyn nesaf.

Hefyd, efallai nad wyt ti’n hoffi bod yn ôl yn yr ysgol. Efallai bod well gen ti astudio gartref ac bod mynd yn ôl i’r ysgol yn achosi straen oherwydd bod cymaint mwy o bobl o gwmpas.

Mae bob amser yn dda rhannu dy bryderon ac rwyt ti’n haeddu cael dy gefnogi. Mae dy athrawon yno i dy helpu a dy arwain. Hefyd, galli di bob amser siarad â Childline.

Ffrindiau

Mae’n bosib bod peidio â gallu gweld dy ffrindiau am gyfnod mor hir wedi bod yn anodd. Efallai dy fod yn teimlo’n unig a dy fod wedi colli ffrindiau oherwydd y cyfnod clo.

Mae’n bosib bod dy ffrindiau yn teimlo’r un fath – gallai helpu i estyn allan atyn nhw. Hefyd, galli di bob amser rannu dy deimladau â Childline neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo.

Bywyd Gartref

Gallai’r cyfnod clo fod wedi effeithio’n fawr ar dy fywyd gartref. Efallai ei fod wedi bod yn amser anodd iawn oherwydd bod aelodau’r teulu wedi bod yn sâl iawn neu wedi marw o’r coronafeirws.

Mae’n bosib bod dy gartref wedi bod yn lle anodd iawn i fod ynddo – efallai fod dy rieni o dan straen am eu bod wedi colli eu swydd ac yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. Efallai dy fod wedi cael dy gam-drin hyd yn oed. Mae’n bosib bod hyn wedi bod yn waeth oherwydd  bod rhaid i ti dreulio cymaint o amser gartref. Nid dy fai di ydy dim o hyn. Mae Childline bob amser yma i dy gefnogi di.