Fe alli di gysylltu â Childline am unrhyw beth. Beth bynnag sy’n dy boeni, mae’n well ei rannu.
Mae Childline yma i dy gefnogi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan fod gennym ni lai o gwnselwyr sy’n siarad Cymraeg, efallai na fydd modd i ti siarad yn Gymraeg yn syth. Ond rydyn ni am wneud popeth gallwn ni i dy gefnogi.
Ffyrdd o siarad â Childline:
- Anfon e-bost
Defnyddia dy gyfrif Childline i anfon e-bost ac fe gei di ateb o fewn 24 awr. Efallai na fyddwn ni’n gallu dy gefnogi’n Gymraeg yn syth, a byddwn fel arfer yn ateb yn Saesneg i ddechrau. I’n helpu ni i dy gefnogi’n well, copïa a gluda hyn ar ddechrau dy neges: “I would like to speak to Childline in Welsh, please pass this message to a Welsh speaking counsellor” - Ein ffonio ni ar 0800 1111
Pan fyddi’n ein ffonio ni, byddi’n mynd drwodd yn gyntaf at neges awtomataidd Saesneg, pwysa 3 i fynd drwodd at gwnselydd. Efalla na fydd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrthyn nhw’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad â chwnselydd Cymraeg, bydd modd iddyn nhw weld a oes rhywun ar gael - Cael sgwrs 1-i-1
Fe alli di siarad â chwnselydd ar-lein. Efalla na fydd y person ti’n ei gyrraedd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrtho’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad yn Gymraeg, bydd yn gweld a oes rhywun ar gael.