Ask Sam letter

Asker

To Sam

Ddim yn siarad lot o saesneg - Don’t speak a lot of English

Anwyl Sam

Rydw i ddim ond yn siarad dipin bach o saesneg sudd yn gwneud on anodd i fi cysylltu hefo pawb, mae bob un o fy fffrindau yn gallu siarad lot o saesneg ond dwi'n ffeindio fo'n anodd a weithiau mae fy ffrindiau yn galael i allan o gemmau neu clwbau a rydw in theimlon unig iawn.

Dear Sam

I only speak a little bit of English which makes it difficult for me to connect with everyone, all of my friends can speak a lot of English but I find it difficult sometimes when my friends leave me  out of games or clubs and I feel very lonely.

Ask Sam

Sam

Helo 'na

Mae gwneud ffrindiau a dod i adnabod pobl yn llawer mwy anodd os nad wyt ti'n siarad yr un iaith â nhw i'r un lefel, ac mae'n gallu gwneud i ti deimlo'n unig a wedi dy adael allan. Pan mae hyn yn digwydd mae'n dda i ddweud wrth bobl sut wyt ti'n teimlo fel eu bod yn gallu ceisio helpu.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae'n anodd dysgu ail iaith ac mae'n cymryd llawer o amser ac ymdrech. Mae rhai pobl yn tyfu i fyny yn dysgu dwy iaith ond mae'n arferol i fod yn well mewn un iaith na'r llall. Mae pawb yn wahanol ac yn dysgu ar gyflymder gwahanol.

Mae rhai pobl yn teimlo'n unig ac ar ben eu hunain pan nad ydynt yn gallu siarad iaith mor dda â'r bobl o'u cwmpas. Mae'n bwysig siarad gyda dy ffrindiau pan wyt ti'n teimlo dy fod wedi cael dy adael allan pan maent yn siarad yn Saesneg. Dylai dy ffrindiau fod eisiau dy gynnwys, a byddai dweud wrthynt yn eu helpu i ddeall sut mae pethau i ti.

Os wyt ti eisiau dysgu mwy o Saesneg efallai gall dy ffrindiau dy helpu. Ffordd dda o ddysgu ydy ail-adrodd pethau mewn un iaith gyntaf ac wedyn yn yr iaith arall. Os oes gair Saesneg nad wyt ti'n deall, efallai gall dy ffrindiau ddweud wrthyt beth yw'r gair yn Gymraeg. Ac os oes gennyt ffrindiau sydd ddim yn siarad Cymraeg, efallai allet ti eu helpu nhw hefyd.

Mae Childline yn gallu siarad gyda ti yn y Gymraeg os wnei di ofyn am gwnselwr sy'n siarad Cymraeg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael pan wyt ti'n ffonio, mi wnânt drefnu i un ffonio ti nôl. Mae'r cwnselwyr wedi cyfieithu dy lythyr di i'r Saesneg i fi, a fy llythyr i i'r Gymraeg i ti, fel ei fod yn haws i ti ei ddarllen.

Diolch am dy lythyr.

Cymer ofal,

Sam

​​

Hi there,

Making friends and getting to know people is much harder if you can’t speak the same language as well as them, and it can make you feel lonely and left out. When this happens it’s good to tell people how you feel so they can do what they can to help.

For most people it’s difficult to learn a second language and takes a lot of time and work. Some people grow up learning two languages but it’s common to be better at one of the languages than the other. Everyone is different and learns at different speeds.

Some people might feel lonely and isolated when they can’t speak the same language as well as those around them. It would be really important to talk to your friends about how left out you feel when they talk in English. Your friends should want to include you as much as possible and telling them this will help them to understand what it’s like for you.

If you want to learn more English then your friends might be able to help. A good way to learn is to repeat things in one language first then the other. If there is a word in English you don’t understand, your friends might be able to tell you what that word is in Welsh. If you have friends that don’t speak a lot of Welsh, then perhaps you could help them in return.

Childline can talk to you in Welsh  if you ask for a Welsh speaking counsellor. If there isn’t a Welsh speaker available when you ring, they will arrange for one to call you back. The counsellors have translated your letter into English for me and mine into Welsh, so that it’s easier for you to read.

Thank you for your letter.

Take care,

Sam

Need help straight away?

You can talk privately to a counsellor online or call 0800 1111 for free.

Ask me a question

You can ask me about anything you want, there's nothing too big or small. I read every single letter but I can only answer a few each week. My replies are published here on my page.

Write me a letter