Hunanladdiad

Pan fydd pobl yn teimlo’n anobeithiol ac yn methu gweld unrhyw ffordd o wella pethau, maen nhw weithiau eisiau i’w bywyd ddod i ben. Ond gall pethau wella. Mae yna bobl sy’n gallu helpu.

Os wyt ti’n teimlo fel cymryd dy fywyd dy hun ac angen help ar unwaith, ffonia 999 neu ffonia Childline ar 0800 1111.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Pam ydw i’n gael teimladau hunanladdol?

Mae teimladau hunanladdol yn gallu digwydd i unrhyw un. A gallai gael ei sbarduno gan unrhyw beth bron. Fel bwlio, neu gael dy gam-drin (Saesneg). Ond gallai fod yn rhywbeth arall. Efallai nad wyt ti hyd yn oed yn siŵr pam dy fod yn teimlo fel hyn. Ond pa mor ddigalon neu anobeithiol bynnag rwyt ti’n teimlo, mae Childline yma i ti. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.

Gall teimladau hunanladdol effeithio ar unrhyw un, waeth pa mor hen ydyn nhw. Efallai y bydd pobl eisiau rhoi diwedd ar eu bywyd oherwydd:

  • maen nhw’n teimlo y bydd yn gwneud i'w poen ddod i ben
  • maen nhw’n teimlo y bydd yn cael gwared o deimladau negyddol
  • maen nhw'n meddwl y bydd pobl eraill yn eu bywyd yn deall wedyn gymaint o boen maen nhw’n ei deimlo
  • maen nhw’n teimlo y bydd hunanladdiad yn rhoi rheolaeth iddyn nhw.

Mae yna wastad ffyrdd eraill o ymdopi, hyd yn oed os nad yw’n teimlo felly ar hyn o bryd. Galli siarad â chwnselydd Childline am sut rwyt ti’n teimlo neu ddarllen ein hawgrymiadau ar sut i ymdopi â theimladau hunanladdol.

Pethau i’w cofio:

  • gall meddyliau a theimladau am ladd dy hun gael eu sbarduno gan lawer o bethau gwahanol
  • gall pethau wella
  • dwed wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo
  • Mae cwnselwyr Childline yma i dy helpu unrhyw bryd, ddydd neu nos

YMDOPI Â SUT RWYT TI’N TEIMLO

Arwyddion y gallai rhywun fod yn cael teimladau hunanladdol

Gallai rhywun sy’n teimlo fel dod a’i fywyd i ben:

  • fod yn teimlo’n isel (Saesneg) neu wedi encilio (efallai na fyddan nhw eisiau gweld eu ffrindiau neu wneud pethau maen nhw’n hoffi eu gwneud fel arfer)
  • dechrau gwneud pethau peryglus megis cymryd cyffuriau (Saesneg) neu yfed alcohol (Saesneg)
  • rhoi pethau sy'n eiddo iddyn nhw i eraill
  • rhoi’r gorau i ofalu amdanynt eu hunain (efallai na fyddan nhw’n ymolchi mor aml na’n poeni cymaint am eu hymddangosiad ag yr oedden nhw’n arfer ei wneud)

Gallai rhywun sy’n teimlo fel lladd ei hun ddweud pethau fel:

  • “Mi fydd drosodd yn fuan”
  • “Bysai’n well i fi pe bawn i’n farw”
  • “Dydw i ddim eisiau bod yma dim mwy”
  • “Fydd neb yn gweld fy ngholli i”

Helpu ffrind sy’n cael teimladau hunanladdol

Gofalu am dy ffrind yw'r peth gorau y gallet ti ei wneud. Gall dim ond bod yno ar eu cyfer eu helpu i ddechrau teimlo'n well. Gwranda ar eu stori. Efallai y bydd dy ffrind yn dweud wrthot ti pam eu bod nhw’n teimlo'n drist neu'n anobeithiol. Dyweda dy fod di’n deall pam y gallen nhw deimlo fel hyn - ond dyweda wrthyn nhw nad wyt ti am iddyn nhw ymateb trwy ddiweddu eu bywyd eu hunain.

Mae pobl sy'n teimlo'n hunanladdol yn aml yn teimlo'n anobeithiol. Ond fe allet ti roi gobaith yn ôl i'ch ffrind. Awgryma gynlluniau ar gyfer y dyfodol neu bethau y gallwch chi eu gwneud gyda'ch gilydd. Gallai fod yn unrhyw beth, fel taith feicio gyda'i gilydd neu daith i'r sinema bob wythnos. Gallai hyd yn oed fod yn rhywbeth bach fel chwarae gêm gyfrifiadur gyda'ch gilydd. Cofia nad yw’n dy gyfrifoldeb ti yn unig i helpu nhw i ymdopi.

Dyweda wrth eich ffrind pa mor bwysig ydyn nhw i ti. Meddylia yn ofalus amdanyn nhw a dyweda wrthyn nhw pam eu bod nhw'n ffrind da i ti.

Gallet ti hefyd annog dy ffrind i siarad â chynghorydd Childline neu feddyg. Mae'n help mawr i siarad â rhywun. Efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n haws siarad â rhywun nad ydyn nhw'n ei adnabod.

Cofia nad wyt ti’n gyfrifol am atal dy ffrind rhag brifo'i hun. Mae'n bwysig dy fod ti’n cael cefnogaeth hefyd. Os yw helpu dy ffrind yn anodd neu'n ofidus, gallet ti siarad â chynghorydd Childline am gefnogaeth hefyd.

Colli rhywun drwy hunanladdiad

Os bydd rhywun yn cymryd ei fywyd ei hun, mae’n peri gofid mawr i’w ffrindiau a’i deulu. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i rywbeth fel hyn. Ond efallai y byddi di’n teimlo’n ddryslyd neu’n flin. Mae rhai pobl yn teimlo cywilydd. Ac mae pobl eraill yn meddwl tybed a oes rhywbeth y gallen nhw fod wedi’i wneud i atal eu ffrind, eu rhiant neu eu brawd neu chwaer rhag gorffen eu bywyd. Mae’r rhain i gyd yn adweithiau naturiol. Ond cofia na wnaeth y person ladd ei hun oherwydd rhywbeth wnes di neu rywbeth wnes di ddim.

Galli gael cymorth drwy:

Ydy hunan-niweidio yr un fath â theimlo fel lladd dy hun?

Mae hunan-niweidio (Saesneg) yn digwydd pan fydd rhywun yn brifo ei hun yn fwriadol. Gall fod yn ffordd o ddelio â theimladau anodd neu boenus. Os bydd rhywun yn hunan-niweidio, dydy hynny ddim bob amser yn golygu ei fod yn teimlo fel lladd ei hun.

Mae rhai mathau o hunan-niweidio yn gallu bod yn beryglus iawn. Gallai beryglu bywyd rhywun, hyd yn oed os nad yw eisiau lladd ei hun. Os wyt ti neu ffrind wedi hunan-niweidio a dy fod ti’n meddwl y gallai fod yn beryglus, gofynna am gymorth ar unwaith drwy ffonio 999.

Pwy sy’n hunan-niweidio?

Mae rhai mythau am y math o berson sy’n hunan-niweidio. Ond mae llawer o wahanol fathau o bobl yn cael problemau hunan-niweidio. Bechgyn a merched. Ifanc a hen. Pobl o wahanol gefndiroedd ac sydd â chwaethau gwahanol o ran cerddoriaeth. Mae hunan-niweidio yn effeithio ar lawer o bobl. Y peth pwysig i’w gofio yw nad wyt ti ar dy ben dy hun ac y galli di gael help.