Beth ddylwn i ei ddweud pan fyddaf yn galw ChildLine?
View this in English
Gall fod yn anodd siarad os ydych yn ofidus neu wedi eich clwyfo ac efallai na fyddwch yn gwybod beth i'w ddweud. Bydd eich cwnselydd ChildLine yn ceisio eich helpu cymaint â phosibl i siarad am yr hyn sy'n eich poeni fel y gallwn eich helpu.
Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud cyn galw, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu eich helpu cymaint â phosibl.
- Os yw'n bosibl, gwnewch yr alwad yn rhywle lle'r ydych yn ddiogel a lle na fydd unrhyw un yn tarfu arnoch.
- Os oes rhaid i chi ddefnyddio ffôn cyhoeddus neu ffonio y tu allan, ceisiwch aros yn rhywle tawel heb ormod o sŵn traffig. Bydd hyn yn helpu ein cwnselydd i'ch clywed yn iawn.
- Meddyliwch am yr hyn yr ydych eisiau ei ddweud cyn galw. Gallwch alw unrhyw adeg, ond fe all meddwl am yr hyn yr ydych eisiau ei ddweud yn gyntaf helpu.
Pa fath o berson/pobl fydd yn siarad â mi?
Mewn sawl ffordd mae cwnselwyr ChildLine yn bobl gyffredin iawn. Mewn ffyrdd eraill maent yn arbennig am eu bod yn rhoi o'u hamser i ChildLine fel y gallwch siarad â rhywun bob diwrnod o'r flwyddyn, 24/7, os oes angen help arnoch. Mae cwnselydd ChildLine yn rhywun:
- Fydd yn gwrando arnoch ac yn gwybod eich bod wedi bod yn ddewr yn galw
- Y gallwch ymddiried ynddo/ynddi
- Na fydd yn eich barnu nac yn eich bychanu
- Na fydd yn cael ei synnu'n hawdd
- Sy'n deall y math o broblemau y gallwch fod yn poeni yn eu cylch
- Sydd wedi cael hyfforddiant i'ch helpu
- Sy'n cael ei oruchwylio gan oruchwyliwr cynghori ChildLine pan fydd yn ateb galwadau
Beth sydd yn rhaid i mi ei ddweud wrth ChildLine pan fyddaf yn galw?
- Pan fyddwch yn ein galw ni nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion amdanoch chi os nad ydych eisiau gwneud hynny.
- Gallwch siarad â ni am unrhyw beth, felly meddyliwch sut rydych yn teimlo a dywedwch wrthym ni am y peth. Po fwyaf y byddwch yn siarad am yr hyn sy'n digwydd a'r ffordd y mae'n gwneud i chi deimlo, y mwyaf y gallwn ddeall a'ch helpu.
- Efallai y byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi i geisio deall sut yr ydych yn teimlo neu i'ch helpu chi i siarad am y peth. Nid oes rhaid i chi eu hateb os nad ydych eisiau gwneud hynny.
- Dywedwch wrthym os ydych yn ei chael hi'n anodd siarad am yr hyn sydd yn bod.
- Gallwch alw'n ôl unrhyw bryd, hyd yn oed os na wnaethoch siarad y tro cyntaf y gwnaethoch alw.
Alla i ddod â'r alwad i ChildLine i ben os wyf yn dymuno gwneud hynny?
- Pan fyddwch yn ein galw ni, chi sy'n rheoli'r sefyllfa. Gallwch ddod â'r alwad i ben unrhyw bryd.
- Os ydych eisiau ffonio'n ôl nes ymlaen, mae hynny'n iawn, rydym yma 24 awr y dydd.
Canfod beth sy'n digwydd pan fyddwch yn galw ChildLine