Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn galw ChildLine?
View this in English
Pan fyddwch yn ffonio ChildLine, byddwch yn gallu siarad â rhywun sy'n poeni am eich problemau. Mae'r cwnselwyr i gyd wedi eu hyfforddi - a byddant yn gwrando arnoch ac yn ceisio eich helpu.
Os oes ofn arnoch neu os ydych yn teimlo eich bod wedi colli rheolaeth, mae hynny'n iawn. Gallwch ddweud wrthyn nhw. Eu gwaith yw gwrando arnoch chi ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all eich helpu.
Gall siarad allan am broblemau neu siarad am eich teimladau fod yn anodd iawn, ond dyma'r peth iawn i'w wneud. Meddyliwch gymaint yn well y byddwch yn teimlo os gallwch siarad am y peth gyda rhywun sy'n deall.
Gallwn awgrymu pobl eraill a allai helpu a byddwn yn disgrifio'r hyn fydd yn debygol o ddigwydd os byddwch yn penderfynu cysylltu â nhw. Os oes gormod o ofn arnoch neu os ydych yn teimlo'n rhy swil i siarad â rhywun arall a allai eich helpu yna, gyda'ch caniatâd, bydd ChildLine yn siarad â phobl eraill ar eich rhan.
Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad â phwy bynnag yr ydych yn dymuno ac ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un arall, oni bai eich bod eisiau i ni wneud hynny. Bydd eich cwnselydd ChildLine ond yn gweithredu os ydynt yn teimlo ei fod yn argyfwng.
Alla i siarad â ChildLine yn Gymraeg?
Nid ydym ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth cwnsela llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae gennym nifer o gwnselwyr sy’n siarad Cymraeg yn ChildLine. Os na fydd un ohonynt ar gael pan fyddwch yn ffonio, gallwn drefnu i chi ffonio’n ôl i siarad ag un ohonynt.
Beth os nad wyf yn gallu cael ateb oddi wrth ChildLine?
Rydym yn derbyn llawer o alwadau gan bobl y mae angen help arnynt, ac weithiau ni fyddwch yn gallu cael ateb y tro cyntaf y byddwch yn galw. Os na allwch gael ateb, rhowch gynnig arall arni a byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag y gallwn.
A fydd fy ngalwad i ChildLine ar y bil ffôn?
Gan fod ChildLine yn rhif 0800, mae galwadau am ddim ac nid ydynt yn cael eu dangos ar fil ffôn BT neu gebl. Mae galwadau i ChildLine ar 0800 1111 am ddim ar hyn o bryd o'r holl rwydweithiau presennol - 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, Vodafone. Rydym wedi cael gwybod na fydd galwadau yn ymddangos ar unrhyw un o'r biliau hyn.
A yw galw ChildLine o ffonau symudol am ddim?
Mae galwadau i ChildLine ar 0800 1111 am ddim ar hyn o bryd o'r holl rwydweithiau sy'n bodoli, yn cynnwys 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, a Vodafone.
Mae ChildLine ar agor bob amser - ffoniwch 0800 1111 unrhyw bryd. Mae'r llinellau'n brysur weithiau, ond rhowch gynnig arall arni a bydd rhywun yn ateb.