Beth alla i gysylltu â ChildLine yn ei gylch?
View this in English
Gallwch siarad â ChildLine am unrhyw beth - nid yw unrhyw broblem yn rhy fawr neu'n rhy fach.
Os oes ofn arnoch neu os ydych yn teimlo eich bod wedi colli rheolaeth neu os ydych eisiau siarad â rhywun, gallwch alw ChildLine.
Rhai o'r pethau y mae pobl yn ffonio yn eu cylch yw teimlo'n unig neu nad oes unrhyw un yn eu caru, pryderon am eu dyfodol, problemau yn ymwneud â'r ysgol, bwlio, cyffuriau, beichiogrwydd, HIV ac AIDS, cam-drin corfforol a rhywiol, rhedeg i ffwrdd a phryderon yn ymwneud â rhieni, brodyr, chwiorydd a ffrindiau, a throseddau yn eu herbyn.
Beth bynnag yr ydych yn poeni yn ei gylch, yn broblem fach neu fawr, rydym yma i gynnig cymorth a chyngor. Pan fyddwch chi'n barod. Galwch ChildLine ar 0800 1111.